Mae cymdogion yn dweud eu bod nhw wedi galw’r heddlwo leia’ ddwy waith i edrych ar y tŷ yn Ohio lle’r oedd tair o ferched yn cael eu dal ar ôl diflannu ar adegau gwahanol tua deng mlynedd yn ôl.

Mae’r heddlu yn wynebu cwestiynau am y ffordd oedden nhw wedi delio â’r galwadau ac am eu methiant i ddod o hyd I’r merched a oedd wedi eu cadw’n gaeth yn eu hardal leol.

  • Dywedodd un cymydog ei bod hi wedi galw’r heddlu ar ôl i’w merch weld dynes noeth yn cropian yn ardd gefn y tŷ ychydig flynyddoedd yn ôl ond nad oedd yr heddlu wedi ei chymryd o ddifri.
  • Dywedodd cymydog arall ei fod wedi galw’r heddlu ar ôl clywed curo ar y drysau a sylwi ar fagiau plastig dros y ffenestri.
  • Fe ddaeth yr heddlu i’r tŷ y ddau dro ond yn ôl y cymdogion aethon nhw ddim i mewn i’r adeilad.

Cafodd heddlu Cleveland ei beirniadu’n hallt mewn achos gwahanol ychydig flynyddoedd yn ôl wedi i 11 o gyrff gael eu darganfod yng nghartref dyn mewn ardal dlawd arall o’r ddinas.

Roedd cymdogion wedi cwyno ers tro am yr arogl oedd yn dod o’r tŷ a honnodd teuluoedd y dioddefwyr nad oedd yr heddlu wedi bod o ddifri ynglŷn ag adroddiadau fod menywod ar goll.

Y  cefndir

  • Fe ddiflannodd Amanda Berry pan oedd hi’n 16 oed yn 2003 ar ei ffordd adref o’i gwaith mewn Burger King.
  • Diflannodd Gina DeJesus tua blwyddyn yn ddiweddarach pan oedd hi’n 14 oed ac ar ei ffordd adref o’r ysgol.
  • Aeth Michelle Knight ar goll yn 2002  – mae hi’n 32 oed erbyn hyn.
  • Cafwyd hyd i blentyn 6 oed yn y tŷ hefyd a’r gred yw ei bod hi’n ferch i Amanda Berry.
  • Mae perchennog y tŷ, Ariel Castro, a’i frodyr Pedro ac Onil wedi cael eu harestio.