Bydd y cwest i farwolaeth bachgen 11 oed oedd wedi marw ar ôl cwympo oddi ar wifren wib (zip wire) mewn parc antur ger Caernarfon yn parhau heddiw.

Bu farw Bailey Sumner o Blackpwl ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd ger Y Felinheli ar ôl cwympo tra’n cwblhau’r SwampFlyer wythnos yn unig ar ôl i’r wifren wib agor.

Ddoe, clywodd y cwest ei fod e wedi’i gysylltu’n anghywir i’r cyfarpar diogelwch pan gwympodd dros gyfnod y Pasg 2011.

Doedd clip diogelwch ddim wedi’i gysylltu’n gywir i’r rhaff a chyfaddefodd perchennog y parc y dylai’r cyfarpar fod wedi’i wirio cyn i’r wifren agor.

Mae’r cwest yn parhau.