Damascus
Mae awyrennau Israel wedi ymosod ar ran o brifddinas Syria, Damascus.

Dyma’r ail ymosodiad mewn tridiau, a’r tro yma cafodd cyflenwad o daflegrau cywrain oedd ar fin cael eu hanfon at arweinwyr Hezbollah yn Libanus eu dinistrio.

Roedd ffrwydriadau enfawr i’w gweld a’u clywed ger gwaith Jamraya yng nghanol y brifddinas yn hwyr neithiwr.

Credir bod y gwaith yma yn ganolfan ymchwil i arfau cemegol.

Fe waneth llongau Israel ymosod ar long o Syria oedd yn cario llwyth o daflegrau dydd Gwener diwethaf hefyd.

Dyw llywodraeth Israel ddim wedi cadarnhau eu bod wedi cynnal yr ymosodiadau ond maen nhw wedi dweud droeon na fyddan nhw’n caniatau i arfau soffistigedig gael eu hanfon o Syria at Hezbollah, mudiad sy’n cefnogi’r Arlywydd Assad o Syria i’r carn ac sy’n un o elynion pennaf Israel.

Mae adroddiadau ar gyfryngau’r wladwriaeth yn Syria yn dweud bod yr ymosodiadau yn profi bod yn gyswllt byw rhwng Israel a’r gwrthryfelwyr yn y wlad.

Er nad yw llywodraeth Israel wedi cadarnhau yn swyddogol eu bod wedi cynnal yr ymosodiadau, dywedodd y cyn Weinidog Amddiffyn, Shaul Mofaz, bod y llywodraeth yno yn bryderus iawn am y perygl o weld arfau yn syrthio i ddwylo Hezbollah, sy’n fudiad Islamaidd milwriaethus tra bo Syria yng nghanol rhyfel cartref.

“Rhiad i ni gofio bod y drefn yn Syria yn brysur chwalu a bod Iran a Hezbollah yng nghanol yr ymdrech yn Syria i roi cymorth i Bashar Assad,” meddai. “Mae yn beryg y bydd arfau peryglus yn cyrraedd Hezbollah ac arfau cemegol yn cyrraedd mudiadau anghyfrifol fel al-Quaida”, ychwanegodd.