Nigel Evans AS (llun Press Association)
Mae Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a chyn lefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig, Nigel Evans wedi siarad am y tro cyntaf ers cael ei ryddhau gan heddlu Sir Gaerhirfryn ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o drais.

Honnir bod Nigel Evans, sy’n cynrychioli’r Ribble Valley yng ngogledd orllewin Lloegr, wedi treisio un dyn yn ei ugeiniau ac ymosod yn rhywiol ar un arall tua’r un oed rhwng Gorffennaf 2009 a Mawrth 3013.

Dywedodd Mr Evans fod y ddau ddioddefwr honedig wedi bod yn ffrindiau iddo “tan ddoe” a’i fod yn methu credu yr honiadau.

Wrth ddarllen datganiad wedi ei baratoi o flaen llaw yng ngardd y dafarn sydd drws nesaf i’w gartref yn Clithroe, dywedodd bod yr honiadau yn “gyfangwbl ffals”.

“Alla’i ddim deall pan eu bod wedi gwneud yr honiadau yma yn enwedig gan fy môd yn dal i gymdeithasu efo un o’r dynion mor ddiweddar a’r wythnos diwethaf,” meddai.

“Dwi’n gwerthfawrogi y modd y mae’r heddlu wedi ymdrin â’r mater mewn dull mor sensitif ac fe hoffwn fynegi fy niolchgarwch i’m cyd-weithwyr, ffrindiau ac aelodau’r cyhoedd sydd, fel finnau, wedi mynegi anghredinedd am yr hyn sydd wedi digwydd.”

Dywedodd Allan Yalland, cyfrieithiwr Nigel Evans, nad yw ei gleient yn bwriadu rhoi’r gorau i fod yn aelod seneddol nac yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Ar y llaw arall, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi dweud y bydd yn anodd iawn iddo  barhau efo gwaith gyda phroffil mor uchel er ei bod yn iawn i drîn pobl yn ddi-euog hyd nes y profir yn wahanol.

Roedd Phillip Hammond yn siarad ar raglen Andrew Marr a dywedodd ei fod wedi “cael ei synnu fel pawb arall o glywed am yr hyn sydd wedi digwydd.”

‘Dyw Heddlu Sir Gaerhirfryn ddim wedi enwi Mr Evans ond mae nhw wedi rhyddhau’r datganiad yma:

“Cafodd dyn 55 oed o Pendelton yn Swydd Gaerhirfryn, gafodd ei arestio ar amheuaeth o drais ac ymosodiad rhywiol, ei ryddhau heddiw ar fechniaeth yr heddlu tan 19 Mehefin 2013.”

Cafodd Mr Evans ei arestio bore ddoe (Sadwrn) a’i holi trwy’r dydd cyn cael ei ryddhau ar fechniaeth neithiwr.

Gyrfa wleidyddol

Cafodd Nigel Evans ei eni yn Abertawe yn 1957 a’i ethol yn gynghorydd ar Gyngor Gorllewin Morgannwg yn 1985. Ar ôl sefyll a cholli fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yng ngorllewin Abertawe a Phontypridd cafodd ei ethol yn aelod seneddol dros y Ribble Valley yn 1992.

Cafodd ei benodi yn is-gadeirydd y Blaid Geidwadol rhwng 1999 a 2001 cyn cael ei ddyrchafu yn lefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig. Yn 2010 cafodd ei ethol yn un o dri Dirprwy Lefarwyr Tŷ’r Cyffredin.

Yn ôl Michael Ranson, cadeirydd Cymdeithas y Ceidwadwyr yn Ribble Valley, mae pawb “wedi eu syfrdannu’n llwyr” gan y newyddion.

Mewn cyfweliad efo Sky News dywedodd bod Mr Evans yn boblogaidd iawn yn yr etholaeth.

“Mae’n aelod seneddol poblogaidd ac yn aelod da iawn i’w etholaeth. Mae wedi rhoi cymorth i nifer o etholwyr dros y blynyddoedd,” meddai.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi cael gwybod am yr arestio.

Cyhoeddodd Mr Evans ei fod yn hoyw yn 2010 gan ddweud ei fod “wedi blino byw celwydd” ac wedi cyhoeddi hyn am fod gwrthwynebwyr gwleidyddol wedi bygwth gwneud y cyhoeddiad drosto.