Mae Harper Lee, awdures y nofel To Kill A Mockingbird, wedi bod yn y llys er mwyn ceisio ennill yn ôl yr hawlfraint ar y gyfrol.
Bwriad yr achos, sy’n digwydd mewn llys yn Manhattan, Efrog Newydd, ydi hawlio gan fab-yng-nghyfraith cyn-asiant Harper Lee, arian y mae wedi ei ennill ar gefn y gwaith llenyddol.
Mae Harper Lee yn honni fod Samuel Pinkus wedi methu ag amddiffyn yn llawn hawlfraint y llyfr wedi i’w dad-yng-nghyfraith, Eugene Winick, fynd yn sâl ddegawd yn ôl.
Roedd Eugene Winick wedi cynrychioli Harper Lee ers cyhoeddiad To Kill a Mockingbird yn 1960, trwy’r cwmni McIntosh and Otis.
Mae’r awdures 87 oed yn honni fod Samuel Pinkus wedi manteisio ar y ffaith bod ei chlyw a’i golwg yn gwanio saith mlynedd yn ôl, er mwyn ei chael i arwyddo cytundeb a oedd yn cyflwyno hawlfraint y nofel iddo ef a’i gwmni.
Fe enillodd To Kill A Mockingbird wobr Pulitzer, ac mae’n cael ei astudio’n helaeth mewn ysgolion. Fe enillodd y fersiwn ffilm dair gwobr Oscar.