Cafodd mwy na 60 o bobol eu lladd pan ddymchwelodd mwynglawdd aur yn Sudan ddydd Llun.

Mae nifer amhenodol o bobol yn dal ar goll yn dilyn y digwyddiad.

Mae achubwyr wedi bod ar y safle ers dydd Llun, yn y gobaith o ddod o hyd i ragor o bobol yn fyw.

Bu cryn frwydro dros aur yn y wlad ers dechrau’r flwyddyn.

Bu farw mwy na 500 o bobol mewn gwrthdaro yn rhanbarth Darfur, ac mae mwy na 100,000 o bobol wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Dechreuodd y brwydro rhwng llwyth Beni Hussein a’r Rezeigat pan geisiodd aelod o lwyth Rezeigat feddiannu safle cloddio aur ar dir llwyth Beni Hussein.

Roedd yna adroddiadau ar ddechrau’r flwyddyn fod llwyth Beni Hussein wedi gwrthod talu ffioedd mwyngloddio newydd y llywodraeth.

Cloddio am aur yw un o brif ddiwydiannau’r wlad.