Senedd yr Alban
Bydd dau bapur gwahanol iawn am annibyniaeth i’r Alban yn cael eu cyhoeddi yfory.

Bydd adroddiad cyntaf pwyllgor o arbenigwyr economaidd sefydlwyd gan Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn amlinellu fframwaith economaidd i’r wlad yn dilyn annibyniaeth.

Mae’r adroddiad yn cynnig fframwaith fydd, yn ôl y cadeirydd Crawford Beveridge, yn cadarnhau bod yr Alban yn “wlad gyfoethog a chynhyrchiol yn ôl safonnau rhyngwladol.”

“Nid bwriad yr adroddiad yw cynnig cyngor ar y ffordd ymlaen i’r Alban,” meddai, “ond yn hytrach cynnig fframwaith cryf fydd yn sicrhau twf economaidd ar gyfer y wlad.”

Mae argymhelliad y pwyllgor yn cynnig cynllun “sydd yn ymarferol o safbwynt hunanlywodraeth, cydlyniad a dilyniant,” meddai Mr Beveridge. “Mae’n fodel sydd wedi ei saernio yn dda ar gyfer y diwrnod cyntaf wedi annibyniaeth.”

David Cameron: Yr Alban yn well allan yn y DU

Bydd yr adroddiad yma yn cael ei gyhoeddi yr un diwrnod a phapur dadansoddiadol cyntaf llywodraeth San Steffan ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ar wefan Rhif 10 Downing Street sy’n honni y bydd aros yn rhan o’r DU yn “rhoi’r gorau o ddau fyd” i’r Alban.

Dywedodd y bydd yr adroddiad yfory yn cynnig ffeithiau “ar gyfer y pen yn ogystal a’r galon” gan ychwanegu bod yr achos o blaid aros yn y DU “yn trafod y dyfodol yn ogystal a’r gorffennol.”