Michael Gove
Mae’r Ysgrifennydd Addysg Michael Gove wedi gwneud tro pedol ac wedi sgrapio ei gynlluniau i gael gwared ag arholiadau TGAU a chyflwyno cymhwyster newydd yn eu lle.
Mae’n debyg ei fod wedi bod dan bwysau o fewn y Llywodraeth Glymblaid gan y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi wynebu beirniadaeth gan Aelodau Seneddol o bleidiau eraill.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd y Pwyllgor Addysg nad oedd y Llywodraeth wedi “profi ei hachos” dros gael gwared ag arholiadau TGAU mewn pynciau aca
demaidd fel Saesneg, mathemateg, a gwyddoniaeth.
Roedd Michael Gove yn awyddus i gyflwyno cymhwyster newydd, y Fagloriaeth Saesneg.
Mae disgwyl iddo wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma.