Fe fydd rheilffordd gyflym iawn yn hybu twf ac yn creu o leiaf 100,000 o swyddi, meddai David Cameron wrth i’r Llywodraeth baratoi i gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer ail gymal y rhwydwaith HS2 mewn dwy ddinas yn y gogledd.

Mae’r Llywodraeth yn disgwyl beirniadaeth gan gymunedau cefn gwlad a fydd yn cael eu heffeithio gan y rhwydwaith a fydd yn cludo teithwyr o Lundain trwy Birmingham i Fanceinion a Leeds.

Dywed gweinidogion y bydd y rhwydwaith yn lleihau’r amser teithio rhwng y dinasoedd yn sylweddol.