David Cameron
Ni fydd llywodraeth San Steffan yn ail-feddwl ynglyn â pheidio talu budd-daliadau plant i rai teuluoedd yn ôl y Prif Weinidog, David Cameron.

Bydd rhaid teuluoedd, ble mae un rhiant yn ennill dros £50,000, yn colli rhan o’r budd-daliadau o yfory ymlaen. Bydd teuluoedd ble mae un rhiant yn ennill £60,000 yn colli’r cyfan.

Mewn erthygl yn y Sunday Telegraph ac ar drothwy cyhoeddi adolygiad o waith y glymblaid mae’n dweud bod y llywodraeth wedi gwneud “penderfyniadau anodd” wrth fwrw ymlaen efo “agenda ad-drefnu enfawr” a galwodd ar aelodau o’r blaid Geidwadol i “roi’r gorau i gwyno”.

Mae nifer o Geidwadwyr yn anghytuno efo’i gefnogaeth i briodasau rhwng pobl o’r un rhyw a’r polisiau sy’n gwarchod cymorth ariannol i wledydd tramor.

Adolygiad hanner tymor

Bydd Mr Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn cynhoeddi adolygiad hanner tymor yfory fydd nid yn unig yn edrych yn ôl ar waith llywodraeth y glymblaid ers yr etholiad yn 2010 ond hefyd yn nodi eu blaenoriaethau o hyn hyd at yr etholiad nesaf yn 2015.

Mae hyn yn debygol o gynnwys rhoi cap ar gostau gofal cymdeithasol a diwygio pensiynau a’r drefn gwarchod plant.

Dywedodd Mr Cameron wrth y Sunday Telegraph ei fod hefyd yn bwriadu aros fel Prif Weinidog tan 2020.

Ymateb Llafur

Mae’r Blaid Llafur wedi ymateb yn chwerw i’r adolygiad hanner tymor.

“Blwyddyn arall, ail-lansio arall a does dim golwg o’r newid gafodd ei addo gan David Cameron a Nick Clegg,” meddai Is-gadeirydd y blaid, Michael Dugher.

“Bydd teuluoedd sydd wedi rhoi eu ffydd yn addewidion David Cameron a Nick Clegg am newid yn cael eu siomi yn arw os mai dim ond ail- lansiad arall y mae nhw’n ei gynnig,” ychwanegodd.