Michael Gove - cysylltiad rhwng diffyg mathemateg a'r creisis economaidd
Fe fydd arholiadau rhifedd newydd yn cael eu cyflwyno er mwyn “pontio’r gwahaniaeth” sydd rhwng disgyblion yn Lloegr a gwledydd eraill y byd datblygiedig.

Mae Michael Gove, yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, wedi dweud wrth bapur y Telegraph fod sgiliau mathemateg gwan yn cyfrannu at greisis ariannol y Deyrnas Unedig.

Fydd y profion “ddim mor anodd ag arholiad Lefel-A”, ond mi fyddan nhw wedi eu hanelu at fyfyrwyr rhwng 16 a 18 oed sydd ddim yn astudio Mathemateg neu bwnc gwyddonol ar gyfer Lefel-A.

“Fe fydd darn olaf y jig-so yn dod allan yn fuan,” meddai Michael Gove, “er mwyn gwneud yn siwr fod yna gyrsiau a chymwysterau a fydd yn gwneud yn siwr eu  bod nhw’n cario ymlaen i wneud mathemateg nes y byddan nhw’n 18 oed – hyd yn oed os ydyn nhw’n astudio’r Dyniaethau.

“Mae’r creisis economaidd yr ydan ni’n byw trwyddo ar hyn o bryd yn greisis mathemategol – oherwydd fod pobol wedi dibynnu ar hafaliadau amheus i wneud y gwaith drostyn nhw.”

Ychwanegodd Michael Gove y bydd y Llywodraeth yn gwario mwy o arian ar Fathemateg nac ar unrhyw bwnc arall. Mae hi eisoes wedi recriwtio 300 o raddedigion ar grantiau o £11,000 i fod yn arbenigwyr mathemateg mewn ysgolion cynradd, neu i fod yn athrawon mathemateg mewn ysgolion uwchradd.

Fe fydd yn rhaid i ddarpar-athrawon o bob maes ennill gradd B mewn arholiad TGAU Mathemateg.