Arwain plant i ddiogelwch, Connecticut
Mae’r byd wedi ymateb mewn sioc a gyda chydymdeimlad wedi i 28 o bobol gael eu lladd gan saethwr yn Connecticut – 20 ohonyn nhw’n blant.
Mae Prif Weinidog Awstralia, Julie Gillard, wedi disgrifio’r ymosodiad fel “gweithred ddrygionus sy’n amhosib ei deall”.
“A ninnau’n rhieni ac yn neiniau ac yn deidiau, yn frodyr a chwiorydd, ac fel cyfeillion pobol America, r’yn ni’n galaru’r plant rhwng pump a deg mlwydd oed, a oedd â’u dyfodol o’u blaenau,” meddai.
“R’yn ni hefyd yn galaru ar ôl colli athrawon dewr… a gafodd eu llofruddio mewn gwaed oer.”
Japan – dim gynnau, llai o droseddau
Yn Japan, lle mae rheolau llym iawn yn rheoli pwy sy’n cael bod yn berchen ar wn, roedd stori Connecticut yn brif stori ar sianel y darlledwr cyhoeddus, NHK.
Roedd newyddiadurwr yn darlledu’n fyw o’r ysgol yn Newtown, Connecticut, gan bwysleisio ar y ffaith fod pump o blant yn yr ysgol o dras Japaneaidd – a’u bod nhw’n hollol ddiogel wedi’r gyflafan.
Roedd y stori wedi cyrraedd brig y penawdau, hyd yn oed ag etholiadau yn y wlad yfory.
China – cyllyll yw’r broblem
Mae’r ymosodiada yn Connecticut wedi ysgogi trafodaeth gyhoeddus yn China hefyd.
Mae China ei hunan wedi profi nifer o ymosodiadau ar ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwetha’, er mai cyllyll yw’r broblem yn y wlad honno.
Ddoe’n unig y bu’r ymosodiad diweddara’ – pan aeth dyn â chyllell at giatiau ysgol gynradd yng nghanolbarth y wlad ac anafu 22 o blant.
Roedd y sylw ar y stori yn Connecticut yn pwysleisio pa mor hawdd ydi hi i gael gafael ar ynnau yn America, o gymharu â China.
Ond, gyda mwy na 100,000 o blant o China yn astudio yn yr Unol Daleithiau, roedd yna gydymdeimlad a phryder hefyd.
Pilipinas – “poenus”
“Yr hyn sy’n gwneud hyn yn fwy poenus, ydi mai plant bach oedd y rhan fwya’ o’r dioddefwyr,” meddai llefarydd ar ran Arlywydd Benigno Aquino III.
“Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimlad llwyraf at y deuluoedd, yr athrawon a’r holl anwyliaid.
“Maen nhw yn ein meddyliau ar yr adeg anodd yma, rydyn ni’n gweddïo drostyn nhw, yn enwedig gan fod y Nadolig ar y gorwel.”