Gary McKinnon
Ni fydd Gary McKinnon yn wynebu cyhuddiadau pellach ym Mhrydain

Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Keir Starmer wedi dweud y byddai’r tebygrwydd o gael euogfarn yn erbyn McKinnon mewn llys barn yn wan.

Fis Hydref dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y byddai estraddodi McKinnon i ateb cyhuddiadau o hacio cyfrifiaduron llywodraeth yr Unol Daleithiau yn groes i’w hawliau dynol, gan fod ganddo syndrom Asperger.

Mae McKinnon, 46, wedi cydnabod ei fod wedi hacio cyfrifiaduron y Pentagon ond wedi mynnu mai chwilio am dystiolaeth o UFOs ydoedd.