Yr Arglwydd Ustus Leveson
Mae trafodaethau rhyngbleidiol ar reoleiddio’r wasg yn dilyn Adroddiad Leveson wedi dod i ben heb gytundeb.

Roedd y trafodaethau yn cynnwys aelodau o’r Blaid  Geidwadol, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, ond mae gwahaniaeth barn wedi bod ynglŷn â ddylai corff annibynnol newydd i reoleiddio’r wasg gael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth.

Mae anghytundeb wedi bod hefyd am ddiwygiadau i’r ddeddf diogelu data gafodd eu hargymell gan yr Arglwydd Ustus Leveson yn ei adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: “Cafwyd trafodaethau rhyngbleidiol adeiladol y bore ma ond mae gwahaniaeth barn  yn parhau.”

Bydd y trafodaethau’n parhau wythnos nesaf pan fyddan nhw’n canolbwyntio ar y ddeddfwriaeth ddrafft a luniwyd gan y Llywodraeth.