Mae teithwyr i mewn ac allan o’r DU yn wynebu trafferthion heddiw wrth i weithwyr ar draws Ewrop baratoi i gynnal cyfres o streiciau i brotestio yn erbyn y cynnydd mewn diweithdra a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus.

Ym meysydd awyr Heathrow a Gatwick mae nifer o deithiau i’r cyfandir wedi eu canslo oherwydd y streic. Mae disgwyl i 40 o grwpiau o 23 o wledydd gymryd rhan yn y streic.

Mae streiciau yn Sbaen, Gwlad Groeg, Portiwgal a’r Eidal wedi eu trefnu.