Nadine Dorries
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan wedi ennyn beirniadaeth gan rai o’i hetholwyr ar ol iddi benderfynu mynd i Awstralia am fis er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen realiti, I’m a Celebrity… Get Me Out Of Here!

Mae Nadine Dorries yn 55 mlwydd oed ac yn cynrychioli etholaeth Canol Swydd Bedford. Hi fydd yr Aelod Seneddol cynta’ i gymryd rhan yn y gyfres, a hithau’n dal yn ei swydd.

Mae ei phenderfyniad, sy’n golygu y bydd hi i ffwrdd o San Steffan am rai wythnosau o ddydd Sul nesa’ ymlaen, eisoes wedi ennyn cryn feirniadaeth ar wefan gymdeithasol Twitter.

“Dwyt ti ddim yn ‘celebrity’, Nadine, Aelod Seneddol wyt ti, ac mae dy etholwyr yn dy dalu di i weithio iddyn nhw, nid ITV,” meddai un o’r trydarwyr, Nigel Fletcher.