Asil Nadir
Dywedodd gwr busnes o Dwrci heddiw ei fod wedi rhoi £4.3 miliwn i Asil Nadir am ei fod yn “arwr”.
Cafodd Nadir, 71, ei garcharu am 10 mlynedd ym mis Awst am ddwyn bron i £29 miliwn o’i gwmni Polly Peck International.
Dywedodd Hamit Cankut Bagana, pennaeth cwmni awyrennau, ei fod wedi rhoi’r arian i Nadir fel arwydd o’i gyfeillgarwch ac i’w helpu i fyw yn Mayfair a thalu ei gostau cyfreithiol.
Fe wadodd Hamit Bagana ei fod yntau a Nadir yn gysylltiedig â phrosiect i ddatblygu ail faes awyr yng Ngogledd Cyprus.
Roedd hefyd yn gwadu iddo dderbyn arian ac eiddo gan Nadir yn y gorffennol.
Dywedodd Hamit Bagana wrth yr Old Bailey: “Ni roddodd unrhyw beth i fi, dim ond ei gyfeillgarwch.
“Mae Mr Nadir yn arwr i fy nghenhedlaeth i. Yn Nhwrci a Gogledd Cyprus, mae’r cynlluniau a ddechreuodd o yn gyfrifol am y llwyddiannau economaidd heddiw.”
Dywedodd Hamit Cankut Bagana ei fod wedi gwrthwynebu penderfyniad Nadir i ddychwelyd i’r DU yn 2010, ond fe gytunodd i’w ariannu er mwyn rhoi cefnogaeth iddo.
Roedd Nadir wedi ffoi o’r DU ym 1993 ar ôl i Polly Peck fynd i’r wal gyda dyledion o £550 miliwn yn 1990.
Fis diwethaf, yn ystod gwrandawiad ynglŷn â iawndal a chostau, fe honnodd Nadir nad oedd ganddo’r un geiniog. Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan heddiw er mwyn i Nadir allu profi mai ei deulu a’i ffrindiau oedd yn talu am ei fywyd moethus.
Ond mae’r erlyniad yn dweud fod ei honiadau yn “gelwydd”.
Fe fydd y barnwr yn penderfynu a oes unrhyw asedau i dalu iawndal i weinyddwyr Polly Peck. Fe fydd hefyd yn ceisio adennill y costau ar gyfer yr achos.