Ysbyty Leeds (o wefan yr Ymddiriedolaeth Iechyd)
Mae cyn borthor mewn ysbyty yn Leeds yn dweud fod Jimmy Savile yn arfer mynd â merched ifanc i floc y nyrsys yno.

Yn ôl Terry Pratt, roedd y cyflwynydd teledu a’r DJ wedi cael allwedd ar gyfer cartref y nyrsys yn Ysbyty Leeds.

Mae’n dweud fod Jimmy Savile yn arfer cyrraedd yn hwyr y nos gyda merched oedd yn “ymddangos yn ddiniwed” ac wedyn yn gadael tua phump y bore.

Fe fyddai hynny’n digwydd sawl tro bob mis, meddai’r cyn-borthor.

Y cefndir

Erbyn hyn, mae’r heddlu’n ymchwilio i fwy na 400 o gwynion yn erbyn seren deledu’r BBC ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi dweud y byddai angen diswyddo pobol o’r Gorfforaeth pe bai’n dod yn amlwg fod rhai wedi anwybyddu amheuon am Savile.