Gary Glitter yn 1974
Cafodd y canwr pop Gary Glitter ei arestio ar amheuaeth o droseddau rhywiol y bore yma gan yr heddlu sy’n ymchwilio i’r honniadau yn erbyn Jimmy Savile.

Cafodd ei arestio yn ei gartref yng nghanol Llundain.

Mae Glitter eisoes wedi treulio cyfnod mewn carchar yn Fietnam am droseddau rhywiol yn erbyn plant yno.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i honniadau bod y diweddar DJ  Jimmy Savile wedi ymosod yn rhywiol ar dros 300 o bobl ifanc mewn cyfnod o ddeugain mlynedd ac wedi ei ddisgrifio fel “troseddwr rhyw rheibus”