Llong danfor Trident
Mae mwyafrif yr SNP yn senedd yr Alban wedi disgyn i un ar ôl i ddau aelod adael y blaid dros ei chefnogaeth newydd i NATO.

Mae John Finnie a Jean Urquhart wedi gadael ar ôl i gynhadledd y blaid benderfynu o drwch blewyn i ymuno â NATO petai’r Alban yn cael annibyniaeth

Roedd John Finnie wedi mynegi pryder y byddai’r Alban yn methu cael gwared ar daflegrau niwclear o’i thiriogaeth petai’r wlad yn parhau yn rhan o gynghrair NATO. Mae’r SNP wedi dweud y byddai’n cael gwared ar longau tanfor Trident o aber yr afon Clyde os caiff yr Alban annibyniaeth, gan arwain Carwyn Jones i estyn croeso i’r taflegrau i Aberdaugleddau.

‘Yn ymwneud ag ennill y refferendwm’

Mae ymadawiad y ddau aelod senedd yn ergyd i Brif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, Alex Salmond.

Diolchodd Salmond iddyn nhw am am fod yn “weision diflino dros yr SNP” a phwysleisiodd fod aelodaeth Plaid Genedlaethol yr Alban wedi pleidleisio o blaid bod yn aelod di-niwclear o gynghrair NATO.

Honodd dirprwy arweinydd Ceidwadwyr yr Alban fod penderfyniad cynhadledd yr SNP i blaid ymuno â NATO yn “ddim i wneud gyda materion amddiffyn a phopeth i wneud gydag ennill y refferendwm.”

“Sut gall y blaid ymgyrchu ar gael gwared o Trident ac yna ymuno gyda chynghrair filwrol sy’n seiliedig ar rym niwclear?” gofynnodd Jackson Carlaw.