Mae dau o bobl wedi cael eu holi gan yr heddlu ar ôl ymweld ag ysbyty gan honni eu bod yn perthyn i Malala Yousafzai, y ferch o Bacistan gafodd ei saethu yn ei phen gan y Taliban.

Cafodd Malala Yousafzai, 14, ei chludo i’r DU ddoe er mwyn cael triniaeth feddygol arbenigol mewn ysbyty yn Birmingham. Cafodd ei saethu gan ddynion arfog wrth deithio ar fws ym Mhacistan ddydd Mawrth diwethaf am iddi dynnu sylw at hawliau merched yn y wlad.

Dywedodd Dr Dave Rosser, cyfarwyddwr meddygol Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yn Birmingham nad oedd yn credu bod ’na fygythiad i’w diogelwch.

“Yn amlwg mae’n fater i’r heddlu ond rydw i’n deall bod nifer o bobl wedi dod yma gan honni eu bod yn aelodau o deulu Malala, ond nid ydym ni’n credu bod hynny wir, ac maen nhw wedi cael eu harestio,” meddai.

“Nid ydym yn credu bod unrhyw fygythiad i’w diogelwch personol – mae’n debyg bod pobl yn orawyddus efallai.”

Naethon nhw ddim llwyddo i fynd i mewn i’r ysbyty ychwanegodd.

Dywedodd yr heddlu’n ddiweddarach bod dau berson wedi dod i’r ysbyty gan obeithio gweld Malala Yousafzai er mwyn dymuno gwellhad buan iddi. Cafodd y ddau eu holi gan yr heddlu a’u cynghori na fyddai’n bosib iddyn nhw ei gweld. Ni chafodd unrhyw un eu harestio ac nid oedd unrhyw fygythiad i ddiogelwch Malala, meddai’r heddlu.