Mae dynes a thri o blant wedi marw a dau o bobl eraill yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Barn Mead, yn Harlow, Essex tua 1.45yb.
Yn ôl gwasanaethau tân ac achub Sir Essex roedd y rhai oedd yn y tŷ wedi cael eu hachub ond er gwaethaf ymdrechion y timau ambiwlans bu farw tri o’r plant a dynes.
Cafodd dau o bobl eraill eu cludo i’r ysbyty – mae un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Nid oedd tad y plant yn y tŷ pan ddechreuodd y tân.
Mae Heddlu Essex bellach yn ymchwilio i achos y tân ac yn apelio am wybodaeth.