Jeremy Forrest
Mae’r athro Jeremy Forrest wedi cyrraedd yn ôl yn y DU ar ôl iddo ffoi i Ffrainc gydag un o’i  ddisgyblion.

Fe  fydd yr athro 30 oed o Ringmer yn Nwyrain Sussex nawr yn cael ei holi gan yr heddlu ym Mhrydain.

Roedd Forrest wedi ffoi gyda disgybl 15 oed ar 20 Medi. Cafodd Forrest a’r ferch, Megan Stammers,  eu darganfod yn Bordeaux wyth diwrnod yn ddiweddarach. Cafodd Forrest ei arestio ar amheuaeth o gipio plentyn.

Roedd yr athro wedi cyrraedd maes awyr Gatwick prynhawn ma.