Y terfysgoedd yn Llundain
Mae dyn 24 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am dair blynedd a hanner am annog trais ar Facebook yn ystod y terfysgoedd y Lloegr yn 2011.

Roedd Anthony Gristock, o’r Rhath wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o dan y Ddeddf Trosedd Ddifrifol 2007 ym mis Gorffennaf eleni.

Wrth gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw dywedodd y Barnwr Eleri Rees bod negeseuon Gristock wedi cael eu creu gyda’r bwriad “o greu rhagor o anrhefn.”

Fe ddechreuodd y terfysgoedd yn Llundain yn dilyn marwolaeth Mark Duggan gafodd ei saethu gan yr heddlu ar 7 Awst y llynedd.

Fe ledodd y terfysgoedd i ddinasoedd eraill yn Lloegr gan gynnwys Manceinion, Lerpwl, Birmingham a Bryste.

Ar 9 Awst cafodd dau ddyn eu harestio, gan gynnwys Gristock, am greu tudalen Facebook gyda’r neges “Dewch a’r terfysgoedd i Gaerdydd.”

Cafodd y dyn arall, Jamie Counsel, 24 o Gaerdydd ei garcharu am dair blynedd a hanner yn gynharach eleni am yr un drosedd a Gristock.

Roedd Gristock wedi rhoi negeseuon ar y wefan yn awgrymu lleoliadau ar gyfer terfysgoedd.