Mike Jones
Mae dyn 25 oed o Brydain, oedd yn hyfforddwr pêl-droed yn America, wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn Efrog Newydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Mike Jones, oedd yn dod o Tarleton yn Swydd Gaerhirfryn yn wreiddiol, yn oriau man bore dydd Sul, meddai’r heddlu yn Efrog Newydd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Bellevue ond roedd wedi marw cyn cyrraedd.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin ei farwolaeth fel achos o  lofruddiaeth ac wedi bod yn chwilio drwy ffilm teledu cylch cyfyng. Maen nhw wedi rhyddhau llun o’r person sy’n cael ei amau o’r llofruddiaeth.

Roedd Mike Jones yn hyfforddi tîm iau’r New York Red Bulls ar ôl ennill ysgoloriaeth i fynd i America.