Fe werthodd y tocynnau ar gyfer Gŵyl Glastonbury y flwyddyn nesa’ yn gynt nag erioed o’r blaen.

Ar ôl blwyddyn o seibiant, fe aeth y tocynnau ar werth am naw o’r gloch y bore yma, ac roedd y cwbl wedi mynd o fewn awr a 40 munud.

Fe fydd cyfle i brynu tocynnau sydd wedi eu dychwelyd ym mis Ebrill ond, fel arall, mae’r 130,000 wedi eu cymryd eisoes, cyn cyhoeddi pwy fydd yn canu.

Yn ôl y trefnwyr, Michael Eavis a’i ferch, Emily, roedden nhw’n teimlo’n “wirioneddol wylaidd” gyda’r fath ymateb.

Mewn neges trydar, fe ymddiheurodd Michael Eavis i bobol oedd wedi cael eu siomi neu wedi cael trafferthion gyda’r wefan.