Clywodd pwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw nad yw cwmni diogelwch G4S wedi cael ei dalu ers 13 Gorffennaf.

Mae’r cwmni wedi derbyn rhwng £89-90 miliwn gan drefnwyr y Gemau Olympaidd hyd yn hyn ond mae’r gweddill “i’w drafod” yn ôl prif weithredwr Locog Paul Deighton.

Roedd G4S wedi rhoi gwybod i’r trefnwyr ar 11 Gorffennaf na fyddan nhw’n gallu darparu digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd – a hynny bythefnos cyn iddyn nhw ddechrau.

Cafodd milwyr a phlismyn eu defnyddio i gymryd lle rhai o’r swyddogion diogelwch.  Yn ystod y cyfnod gwaethaf, roedd G4S yn brin o 35% o staff yn ystod y Gemau.

Dywedodd Paul Deighton bod y cytundeb gyda’r cwmni yn werth £236 miliwn. Mae hynny’n cynnwys 15% o elw i’r cwmni, a’r gweddill yn gyflog ar gyfer y tim oedd yn gyfrifiol am recrwitio a hyfforddi’r staff.

Yn ôl Charles Farr, pennaeth diogelwch y Swyddfa Gartref, nid oedd G4S wedi rhoi unrhyw arwydd na fyddan nhw’n gallu cwrdd â gofynion eu cytundeb cyn 11 Gorffennaf, ac fe awgrymodd nad oedd y cwmni wedi bod “yn gwbl agored” gyda’r trefnwyr yn y cyfnod yn arwain at y Gemau.

Dywedodd bod y wybodaeth gafodd ei roi iddyn nhw yn “amlwg yn gamarweiniol, a dweud y lleiaf.”

Dywedodd prif swyddog gweithredol G4S, David Taylor–Smith bod yr helynt wedi bod yn “fethiant difrifol” ar eu rhan ac mae wedi ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd.

Mae G4S wedi bod yn cael ei holi heddiw gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ynglyn a’r helynt.