Fe fydd rhai o brif weithredwyr cwmni diogelwch G4S yn cael eu holi gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’r “shambls” yn ymwneud â’u cytundeb ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain.

Fe fydd yr Arglwydd Coe, cadeirydd y pwyllgor fu’n gyfrifol am drefnu’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a phennaeth Scotland Yard Bernard Hogan-Howe, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ynglŷn â’r helynt.

Roedd methiant y cwmni i ddarparu digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau wedi golygu bod milwyr wedi gorfod gwneud y gwaith yn eu lle.

Daw’r gwrandawiad ddiwrnod ar ôl y dathliadau i nodi diwedd y Gemau yn Llundain, pan fu miloedd o bobl yn llongyfarch athletwyr Prydain wrth iddyn nhw orymdeithio drwy’r ddinas mewn bysys.