Mae asiantaeth iechyd wedi rhybuddio am beryglon chwistrelliadau lliw haul anghyfreithlon, wedi i ddynes ifanc farw ar ôl eu defnydd nhw.
Daethpwyd o hyd i Jenna Vickers, 26, o Bolton, wedi llewygu mewn siop lliw haul yn y dref ddydd Llun.
Torrodd gweithwyr i mewn i’r ciwbicl yr oedd hi ynddo ond doedd dim modd ei hachub.
Nid yw’n amlwg eto a oes cysylltiad rhwng ei marwolaeth a’r chwistrelliadau.
Ond mewn neges ar ei thudalen Twitter ar 17 Awst, awgrymodd ei bod hi wedi defnyddio’r pigiadau.
“Mae gen i liw haul hyfryd nawr… a dim sgil effeithion. J Wrth fy modd.”
Roedd hi ar fin priodi a dywedodd nad oedd hi “erioed wedi bod yn hapusach” nag oedd hi bryd hynny.
Mae’r chwistrelliadau Melanotan wedi eu gwahardd yn y Deyrnas Unedig ond mae modd eu prynu nhw ar-lein.
Mae Melanotan yn hormon sy’n annog y corff i gynhyrchu melanin, sy’n tywyllu’r croen.
‘Hynod ddifrifol’
Dywedodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaeth a Nwyddau Iechyd y dylai unrhyw un sy’n prynu’r chwistrelliadau roi gwybod iddyn nhw.
“Rydyn ni’n rhybuddio pobol na ddylen nhw ddefnyddio’r cynnyrch yma,” meddan nhw.
“Does dim sicrwydd eto ynglŷn â diogelwch Melanotan. Fe allai’r sgil effeithiau fod yn hynod ddifrifol.
“Mae yn erbyn y gyfraith i’w werthu, a dylai unrhyw un sydd wedi ei brynu rhoi gwybod i ni.”