Bob Bird
Mae cyn-olygydd y News of the World yn yr Alban  wedi cael ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl cael ei arestio gan Heddlu Ystrad Clud bore ma.

Cafodd Bob Bird ei gadw yn y ddalfa yn Glasgow bore ma mewn perthynas ag achos  cyn-Aelod Seneddol yr Alban, Tommy Sheridan, yn erbyn y News of the World yn 2006.

Mae Bob Bird bellach wedi cael ei ryddhau ac fe fydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer erlynwyr.

Mae Heddlu Ystrad Clud wedi cadarnhau fod dyn 56 oed wedi cael ei arestio ac wedi ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cefndir

Roedd Tommy Sheridan  wedi cyhuddo’r News of the World o bardduo ei enw. Cafodd iawndal o £200,000 ar ôl i’r papur gyhoeddi manylion am ei fywyd preifat.

Ond yn 2011 cafodd Tommy Sheridan ei garcharu am dair blynedd am ddweud anwiredd mewn llys barn ynglŷn â honiadau’r papur. Cafodd ei ryddhau ar ôl treulio blwyddyn dan glo.

Roedd Bob Bird wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos yn 2006 ac yn 2010.