Julian Assange
Mae Llywodraeth San Steffan wedi ysgrifennu at lysgenhadaeth Ecuador yn Llundain yn y gobaith o ddechrau trafodaethau ynglŷn â sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange.

Mae Julian Assange wedi bod yn y llysgenhadaeth ers deufis wrth iddo geisio osgoi cael ei anfon i Sweden er mwyn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes yno.

Mae’n gwrthod gadael gan honni y bydd Sweden yn ei anfon ymlaen i’r Unol Daleithiau.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw wedi anfon “neges ffurfiol” i ddiplomyddion y wlad o Dde America.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan y bydd Julian Assange, sy’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, yn cael ei arestio os yw’n camu y tu allan i lysgenhadaeth Ecuador.

Dywedodd arlywydd Ecuador y byddai modd dod a’r ddadl ddiplomyddol “i ben yfory” pe bai Prydain yn caniatáu i Julian Assange hedfan i dde America.

“Ond fe allai lusgo ymlaen am fisoedd neu flynyddoedd os nad yw Julian Assange yn cael gadael llysgenhadaeth Ecuador yn Llundain,” meddai.