Mae proffwydi’r tywydd wedi rhybuddio am law a gwynt i unrhyw un sy’n dewis aros ym Mhrydain yn ystod yr ŵyl y banc olaf cyn y Nadolig.

Mae disgwyl y bydd 1.8 miliwn o bobol y Deyrnas Unedig yn gadael y wlad ar wyliau y penwythnos hwn, ac nid fydd dim ond tywydd diflas i’r rheini sy’n penderfynu aros gartref.

Yng Nghymru mae disgwyl glaw trwm ddydd Sadwrn, ac ysbeidiau heulog ddydd Sul, cyn i ragor o law trwm gyrraedd ddydd Llun.

“Mae yna wasgedd isel yn symud i gyfeiriad y Deyrnas Unedig o’r Iwerydd gan ddod a thywydd garw iawn a stormydd mellt a tharanau,” meddai Gareth Harvey o gwmni tywydd MeteoGroup.

“Fe fydd y gwasgedd isel hwnnw yn gorchuddio’r ynysoedd ddydd Sadwrn. Fe fydd hi’n bwrw’n drwm, ac fe fydd yna stormydd, ymhobman bron a bod.

“Erbyn dydd Sul fe fydd y gwasgedd isel wedi mynd, ond rydyn ni’n disgwyl cyfnodau hir o law.

“Erbyn dydd Llun bydd clwt arall o wasgedd isel wedi dod i mewn o gyfeiriad y môr, gan ledu ar draws Ynysoedd Prydain yn ystod y dydd.

“Mae disgwyl gwyntoedd tymhestlog iawn, yn enwedig yn y gogledd, sy’n anarferol iawn yr adeg yma o’r flwyddyn.”