Mae gwasanaethau brys Llundain wedi dweud eu bod nhw’n ceisio diffodd y ‘tân mwyaf yn y brifddinas ers blynyddoedd’.
Mae dros 200 o ddiffoddwyr yn brwydro’r fflamau mewn canolfan ailgylchu yn Dagenham, yn nwyrain Llundain.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 1.15pm. Mae’n debyg bod y mwg i’w weld am filltiroedd i bob cyfeiriad.