Fe fu farw beiciwr modur yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl bod yn rhan o wrthdrawiad â fan ddoe.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A482 rhwng Llanbedr pont Steffan a chyffordd Sarn Helen ger Pumsaint.
Roedd ar gefn beic modur Ducati. Bu’n rhaid torri dau berson allan o’r fan Peugeot.
Caewyd y ffordd am bedair awr yn dilyn y gwrthdrawiad marwol tua 9am.