Mae’r nofiwr o Tsieina, Ye Shiwen, wedi gwadu iddi gymryd cyffur i wella perfformiad yn dilyn ei buddugoliaeth yn y ras gymysg 400m.

Roedd Ye Shiwen, sydd ond yn 16 oed, eiliadau’n gynt na’i record bersonol gan osod record y byd newydd ac ennill y fedal aur yn y ras 400m gymysg ddydd Sadwrn.

Gorffennodd 50m olaf y ras yn gynt na’r nofiwr buddugol yn ras gymysg 400m y dynion.

Dywedodd Ye Shiwen, “Does yna ddim problem gyda chymryd cyffuriau. Mae gan y tîm Tsieineaidd bolisi cadarn felly does dim problem gyda hynny.”

Mae pob athletwr sy’n hawlio medal yn y Gemau yn cael eu profi am gyffuriau yn awtomatig.