Mae Prydain wedi disgyn i’r dirwasgiad hiraf ers 50 mlynedd yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r economi wedi crebachu gan 0.7% rhwng Ebrill a Mehefin, sy’n waeth na’r hyn a gafodd ei ddarogan.
Mae’r gŵyl banc ychwanegol ar achlysur Jiwbilî’r Frenhines, ynghyd â’r cyfnod gwlypaf i gael ei gofnodi erioed rhwng Ebrill a Mehefin, wedi cael y bai am atal adferiad yr economi.
Mae’r cynnyrch mewnwladol crynswth, sy’n cael ei ddefnyddio i fesur yr economi, wedi disgyn am y trydydd chwarter yn olynol yn ôl y Swyddfa Ystadegau, sy’n awgrymu mai dyma’r dirwasgiad hiraf ers i ffigurau chwarterol gael eu cofnodi gyntaf yn 1955.
Mae economi Prydain 0.3% yn llai na’r hyn ydoedd pan ddaeth y glymblaid Geidwadol-Rhyddfrydol i rym a mae disgwyl i’r ffigurau heddiw roi mwy o bwysau ar y Canghellor George Osborne a’i fesurau i ddelio â’r cyni economaidd.
Nid oes ffigurau GDP ar gyfer Cymru yn unig.