Christian Bale
Mae’r actor Christian Bale, sy’n chwarae rhan Batman yn y ffilm ddiweddaraf, wedi ymweld â goroeswyr y gyflafan yn Denver, Colorado.

Cafodd 12 eu lladd a 58 eu hanafu ar ôl i ddyn yn gwisgo mwgwd saethu at dorf tra roedden nhw’n gwylio’r ffilm Batman, The Dark Night Rises, yn ardal Aurora yn ninas Denver.

Ymddangosodd James Holmes, 24, yn y llys ddoe ar amheuaeth o gyflawni’r drosedd.

Roedd Christian Bale, sy’n enedigol o Sir Benfro, wedi diolch i staff meddygol a swyddogion yr heddlu a oedd wedi ymateb i’r ymosodiad wythnos ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Warner Bros fod yr actor yno ar liwt ei hun ac nad oedd wedi ymddangos ar ran neb arall.

Roedd ymgyrch ar-lein wedi annog Christian Bale i ymweld â goroeswyr y gyflafan.

Mewn datganiad, dywedodd Christian Bale, “Fedra i ddim hyd yn oed dychmygu poen a galar y dioddefwyr a’u teuluoedd, ond mae fy nghalon yn mynd allan iddyn nhw.”

Mae Arlywydd America, Barack Obama, ac aelodau o dîm pêl-droed Americanaidd y Denver Broncos eisoes wedi ymweld â’r cleifion yn yr ysbyty.