Roedd 91 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi gwrthryfela yn erbyn David Cameron neithiwr gan bleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth Glymblaid i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Serch hynny roedd cefnogaeth y Blaid Lafur yn golygu bod y Llywodraeth wedi ennill y bleidlais o fwyafrif o 338 o bleidleisiau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg bod y bleidlais yn “fuddugoliaeth” ond fe ddaeth yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i roi’r gorau i ruthro diwygiadau i Dŷ’r Arglwyddi trwy’r Senedd.

Roedden nhw mewn peryg o golli pleidlais allweddol ar y pwnc neithiwr.

Roedd o leia’ dri AS Ceidwadol o Gymru – ac efallai, Glyn Davies, sy’n aelod o’r Llywodraeth – yn mynd i bleidleisio’n erbyn cynnig i roi terfyn amser ar Fesur Diwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Ynghyd â gwrthwynebiad aelodau Llafur a Phlaid Cymru, fe fyddai hynny wedi bod yn ddigon i guro’r Llywodraeth.

Eisoes, mae’r gwrthryfelwyr yn hawlio buddugoliaeth – o ganlyniad i’r penderfyniad, fe fydd hi’n llawer haws atal neu newid y diwygiadau wrth iddyn nhw fynd trwy Dŷ’r Cyffredin.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid Tŷ’r Arglwyddi sy’n hanner y maint presennol a lle mae 80% yn cael eu hethol.