Mae tri dyn wedi ymddangos gerbron llys heddiw ar gyhuddiadau’n ymwneud â therfysgaeth.

Mae Jewel Uddin 26, Omar Mohammed Khan, 27, a Mohammed Hasseen, 23, wedi cael eu cyhuddo o baratoi ar gyfer gweithred, neu weithredoedd terfysgol.

Cafodd y tri eu harestio ar ôl i ddrylliau, bom hoelion, machetes a neges i grŵp adain dde gael eu darganfod mewn car gafodd ei stopio gan yr heddlu ar draffordd yr M1 ger Sheffield ddydd Sadwrn.

Mae’r tri, sy’n dod o Birmingham, wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron yr Old Bailey ar 31 Gorffennaf.