Mae traffordd yr M4 wedi cau yn y ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 1 a 3 yng ngorllewin Llundain.

Mae’r draffordd – sy’n rhedeg o Lundain i Bont Abram yn Sir Gaerfyrddin – wedi cau ers 8 o’r gloch neithiwr ac mae disgwyl iddi barhau wedi cau am hyd am bum niwrnod.

Wrth i waith gael ei wneud ar bont Boston Manor, cafwyd hyd i grac, a hynny mewn ‘lleoliad sensitif’, sy’n gofyn am ei atgyweirio ar unwaith.

Dywed Asiantaeth Priffyrdd Lloegr ei bod yn disgwyl i’r holl waith ar y bont fod wedi ei gwblhau herbyn y Gemau Olympaidd ddiwedd y mis.

Mae arwyddion yn cyfeirio gyrwyr i ffyrdd deuol cyfagos, yr A312 a’r A4, a chaiff gyrwyr eu cynghori i ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eu teithiau.