Liam Fox
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Liam Fox wedi galw ar David Cameron i ail-edrych ar y berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cyn ysgrifennydd amddiffyn wedi rhoi pwysau ar y Prif Weinidog gan fynnu y dylai anwybyddu gwrthwynebiad y Democratiaid Rhyddfrydol a phwyso am newidiadau ar unwaith.

Serch hynny, er bod Liam Fox o blaid cynnal refferendwm, mae wedi rhybuddio yn erbyn cynnal un yn fuan, gan ddweud y byddai’n ormod o risg.

Fe wnaeth Dr Fox ei sylwadau yn ystod ei araith gyntaf ers ymddiswyddo o’r Cabinet yn dilyn honiadau am ei gysylltiadau anaddas gyda lobïwr.

Dywedodd yr hoffai weld Prydain yn trafod perthynas newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd “wedi ei seilio ar ystyriaethau economaidd yn hytrach na gwleidyddol.”

Ond dywedodd na fyddai’n hawdd i’r Ceidwadwyr  gyflwyno newidiadau tra bod y blaid mewn Llywodraeth Glymblaid gyda’r Dems Rhydd.

Mae disgwyl i David Cameron fanylu ynglŷn â’i gynlluniau i gynnal refferendwm yn yr hydref.