Y Frenhines yn ysgwyd llaw gyda Peter Sheridan, a Dug Caeredin yn cwrdd â Martin McGuinness
Mae’r Frenhines wedi cwrdd â Martin McGuinness heddiw mewn cyfarfod hanesyddol ym Melffast.

Roedd dirprwy Brif Weinidog Stormont wedi cwrdd â’r Frenhines tu ôl i ddrysau caeedig yn Theatr y Lyric ym Melffast mewn digwyddiad i ddathlu’r celfyddydau yng Ngweriniaeth a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cyfarfod yn cael ei weld fel carreg filltir bwysig yn y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd Martin McGuinness yn aelod o’r IRA pan gafodd cefnder y Frenhines, yr Arglwydd Louis Mountbatten ei ladd mewn ffrwydrad yn 1979.

Roedd y cyfarfod heddiw yn gyfle i’r ddau roi’r gorffennol o’r neilltu. Roedd Dug Caeredin, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Peter Robinson, ac Arlywydd Iwerddon Michael D Higgins a’i wraig Sabina hefyd yn bresennol.