Jimmy Carr
Mae’r comedïwr Jimmy Carr wedi cyfaddef heddiw ei fod wedi gwneud “camgymeriad dybryd” ynglŷn â’i drefniadau treth.

Daeth ei gyhoeddiad ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron ddweud bod penderfyniad y comedïwr i osgoi talu trethi yn “anfoesol”.

Roedd David Cameron wedi ymuno yn y feirniadaeth o’r comedïwr ar ôl i’w drefniadau i osgoi talu treth gael eu datgelu yn The Times ddydd Mawrth.

Yn ôl yr adroddiadau roedd Carr wedi defnyddio cynllun cyfreithiol cwmni K2 i osgoi talu trethi, lle mae aelodau yn talu treth incwm o gyn lleied â 1%.

Dywedodd David Cameron: “Nid yw’n deg ar bobl sy’n gweithio’n galed ac yn gwneud y peth iawn ac yn talu eu trethi i weld y math yma o gynllun yn cael ei ddefnyddio.”

Ychwanegodd bod y Llywodraeth yn edrych ar y gyfraith o osgoi talu trethi ond bod angen cymryd camau pellach.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eisoes wedi cyhoeddi bod ’na ymchwiliad i gynllun K2.