Mae gweinidogion ac arweinwyr y GIG wedi gwneud ymdrech funud olaf i geisio perswadio meddygon i beidio â chynnal streic yfory.

Mae disgwyl i feddygon ar draws y DU gynnal streic ddydd Iau gan olygu bod achosion sydd ddim yn rhai brys yn cael eu gohirio.

Dyma’r tro cyntaf i feddygon weithredu’n ddiwydiannol ers 1975. Maen nhw’n protestio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley wedi dweud bod y streic yn “ddibwrpas ac na fydd yn cyflawni dim” tra bod NHS Employers  yn rhagweld y bydd cleifion yn dioddef.

Ond dywed arweinwyr undeb eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i weithredu am nad oedd gweinidogion y Llywodraeth yn fodlon gwrando.

Mae disgwyl i’r streic 24 awr ddechrau am hanner nos.

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi dweud y bydd meddygon yn parhau i gynnal eu dyletswyddau brys sy’n golygu y bydd adrannau brys a gwasanaethau mamolaeth yn parhau ar agor.

Ond fe all y streic effeithio apwyntiadau ysbyty, a rhai llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys.

Mae nifer o gleifion eisoes wedi clywed bod eu hapwyntiadau wedi cael eu hail-drefnu.