Banc Lloegr
Mae cyfradd chwyddiant wedi disgyn i’w lefel isaf ers dwy flynedd a hanner.
Cwympodd y gyfradd i 2.8% ym mis Mai, i lawr o 3% yn Ebrill, a’r isaf ers Tachwedd 2009.
Daw’r gostyngiad mewn chwyddiant yn sgil gostyngiad ym mhrisiau petrol. Yn ystod mis Mai cwympodd pris litr o betrol 4.5c i 137.1c ar gyfartaledd ym Mhrydain.
Roedd chwyddiant yn 5.2% fis Medi diwethaf, ond ers hynny mae prisiau ynni, bwyd a nwyddau wedi disgyn ychydig.
Er y gostyngiad mewn chwyddiant ni chwympodd y gyfradd gymaint ag oedd Banc Lloegr wedi proffwydo yn wreiddiol, yn bennaf o achos y cynnydd ym mhrisiau olew ym mis Mawrth o ganlyniad i’r tensiwn rhwng Iran ac Israel.