Ed Miliband
Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband a’r cyn Brif Weinidog Syr John Major yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg heddiw.

Roedd Ed Miliband yn feirniadol iawn o News International, sy’n berchen i Rupert Murdoch, pan ddaeth yr honiadau am achosion o hacio ffonau i’r amlwg y llynedd.

Ond ers iddo ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, mae Ed Miliband wedi cael sawl cysylltiad â News International.