Mae llanc wedi marw mewn gŵyl gerddorol yn Ucheldiroedd yr Alban.

Mi wnaeth y llanc 19 oed gael ei daro’n wael ym mhrif arena gŵyl RockNess neithiwr. Y gred yw ei fod wedi cymryd cyffuriau. Roedd yn dod o Portobello yng Nghaeredin.

Derbyniodd driniaeth ym mhabell feddygol yr ŵyl cyn cael ei symud i Ysbyty Raigmore yn Inverness lle bu farw neithiwr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y bydd post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach, a bod teulu’r llanc wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae’r RockNess yn cael ei chynnal dros dri diwrnod ac mae disgwyl y bydd 35,000 yn ymweld â’r ŵyl eleni. Mae’r cerddorion sy’n ymddangos yno eleni yn cynnwys Ed Sheeran, Annie Mac, Deadmau5 a Biffy Clyro.

Mi gafodd dau ddyn o Glasgow eu lladd mewn damwain are eu ffordd i’r ŵyl. Digwyddodd y ddamwain yn Raila, i’r de-orllewin o Newtonmore yn Ucheldiroedd yr Alban

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau. Roedd Mark McFarlane yn 38 oed, a Barry Murray yn 28 oed.