Banc Lloegr
Mae chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers mwy na dwy flynedd fis diwethaf, yn ôl ffigurau swyddogol gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i  3% ym mis Ebrill, o’i gymharu â 3.5% ym mis Mawrth, ei lefel isaf ers mis Chwefror 2010, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Mae prisiau is ar y stryd fawr wedi denu cwsmeriaid, gyda phrisiau dillad ac esgidiau yn codi dim ond 0.2% yn y cyfnod o’i gymharu â 1.4% y llynedd.