Mae archfarchnad Sainbury’s wedi cyhoeddi y bydd yn torri pris petrol a disel 3c y litr.

Fe fydd y toriadau yn dod i rym ar draws pob un o’r 266 gorsaf betrol sydd gan y cwmni yfory.

Mae disgwyl y bydd y penderfyniad yn annog archfarchnadoedd eraill i dorri eu prisiau nhw hefyd.

Yr wythnos diwethaf dywedodd yr AA bod prisiau petrol yn y Deyrnas Unedig wedi syrthio 4c, a disel wedi syrthio 3.5c, dros y mis diwethaf.

Mae Asda, Tesco a Morrisons wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n torri prisiau dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd pennaeth tanwydd Sainsbury’s, Richard Crampton, bod prynu petrol a disel yn parhau yn rhan fawr o gost wythnosol cartrefi’r wlad.

“Mae prisiau tanwydd wedi syrthio ar draws Ewrop ac rydyn ni’n falch ein bod ni’n gallu sicrhau bod ein cwsmeriaid hefyd yn arbed arian,” meddai.

“Fe fydd yn hwb i gwsmeriaid cyn gŵyl y banc dathliadau Jiwbilî’r Frenhines.”