Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio ei dau blentyn.

Cafwyd hyd i fachgen 10 wythnos oed a’i chwaer 14 mis oed yn farw ar ôl i’r heddlu gael eu galw i dŷ yn Wandsworth, yn Llundain neithiwr.

Cafodd dynes yn ei 30au ei harestio yn y tŷ ac mae’n cael ei holi gan yr heddlu yn ne Llundain, meddai Scotland Yard.

Mae swyddogion yn ymchwilio i’r posibilrwydd ei bod yn dioddef o iselder ar ôl geni ei babi.

Fe fydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal yn y man.